|
|
Manlion am CBC
/
Ein storiStori Cynilion a Buddsoddiadau CenedlaetholYm 1861, sefydlodd Llywodraeth Palmerston "Fanc Cynilo Swyddfa'r Post" - cynllun cynilo syml i annog pobl oedd yn ennill cyflog cyffredin i "ddarparu ar eu cyfer eu hunain rhag adfyd a salwch". Daeth y cynllun yn boblogaidd yn sydyn iawn, gyda'r arian a fuddsoddwyd yn Swyddfa'r Post yn cael ei drosglwyddo i'r Trysorlys, gan ddarparu cronfa y gallai Gladstone, y Canghellor ar y pryd, fenthyg arian ohoni er mwyn cyfrannu at wariant cyhoeddus. Dyma sail dwy egwyddor sydd wedi para ers hynny:
Ehangwyd y cynllun yn helaeth yn ystod y ganrif nesaf, gan gynnwys cyflwyno Tystysgrifau Cynilo yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf er mwyn helpu i ariannu'r rhyfel. Hefyd lansiwyd Bondiau Premiwm yn swyddogol ar 1 Tachwedd 1956 gan Harold Macmillan, Canghellor y Trysorlys. Tynnwyd y rhifau cyntaf ar 2 Mehefin 1957. Ym 1969 y bu'r prif newid cyntaf o ran strwythur - daeth Banc Cynilo Swyddfa'r Post yn adran lywodraeth ar wahân, yn atebol i Weinidogion y Trysorlys, a newidiwyd yr enw i Cynilion Cenedlaethol. Roedd gan Swyddfa'r Post rôl o hyd, fel man dosbarthu ar gyfer cynnyrch Cynilion Cenedlaethol. Dros y blynyddoedd, datblygodd Cynilion Cenedlaethol ei amrywiaeth o gynilion a buddsoddiadau er mwyn gweddu i'r farchnad ac i gwrdd ag anghenion cwsmeriaid ac angen y Llywodraeth am arian. Ar 1 Gorffennaf 1996, daeth Cynilion Cenedlaethol yn Asiantaeth Weithredol Canghellor y Trysorlys. Er bod Cynilion Cenedlaethol yn parhau yn atebol i'r Trysorlys, mae Statws Asiantaeth wedi rhoi mwy o annibyniaeth i ni mewn materion o ddydd i ddydd Dechreuodd Cynilion Cenedlaethol ar raglen foderneiddio uchelgeisiol ym mis Ebrill 1999 pan arwyddodd Bartneriaeth Breifat Gyhoeddus arloesol gyda Gwasanaethau Busnes Siemens. Trosglwyddwyd dros 4,000 o staff o Gynilion Cenedlaethol i Gwasanaethau Busnes Siemens, sydd erbyn hyn yn delio â holl gynnyrch Cynilion Cenedlaethol, gan drawsnewid gweithrediadau busnes megis canolfannau galw ac uwchraddio technoleg gwybodaeth. Mae'r bartneriaeth wedi helpu i wneud Gwasanaethau Busnes Siemens yn un o ddarparwyr gwasanaethau blaen ac ôl-swyddfa mwyaf y DU, ac mae Cynilion Cenedlaethol wedi gallu manteisio ar y systemau TG a phrosesu trafodion modern diweddaraf, ac arbenigedd trawsnewid busnes. Mae'r bartneriaeth yn ddilys am 10 mlynedd, gydag opsiwn i'w hadnewyddu am bum mlynedd arall. Un o elfennau mwyaf arloesol y bartneriaeth gyda Gwasanaethau Busnes Siemens yw creu targedau ar gyfer pob lefel trwy'r ddau sefydliad. Mae hyn wedi golygu gwelliannau mawr mewn gwasanaethau cwsmeriaid a chost-effeithlonrwydd. Mae Cynilion Cenedlaethol wedi ennill clod am ansawdd a gwasanaeth o sawl cyfeiriad. Yn y flwyddyn 2000, derbyniodd ei ail Nod Siarter am Ragoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, a Gwobr Kelly am Ragoriaeth mewn Prynu a Chyflenwi. Roedd y gwobrau hyn yn cydnabod manteision ein partneriaeth yn fewnol a'r manteision i'r cyhoedd. Mae hunaniaeth gorfforaethol newydd Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn adlewyrchu busnes sydd wedi'i foderneiddio. Mae'r rhaglen drawsnewid yn cyflwyno newid llwyr i systemau, prosesau a diwylliant er mwyn creu sylfaen ar gyfer busnes modern, dynamig, gan alluogi Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol i ganolbwyntio ar gwsmeriaid yn hytrach na chynnyrch. Sefydlwyd dwy ganolfan alw bwrpasol sy'n gweithredu 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Erbyn hyn, mae llinell ymholiadau ar gael ar gyfer ein cynnyrch i gyd, gan ei gwneud hi'n haws i gwsmeriaid drafod busnes gyda ni. Bydd cwsmeriaid yn siarad gyda chynrychiolydd gwasanaethau cwsmeriaid, nid peiriant. Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol bob amser yn chwilio am ffyrdd o gynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid a chreu mwy o ffyrdd i gwsmeriaid gysylltu â ni. Er mai'r brif ffordd o ddelio â ni fydd trwy Swyddfa'r Post, bydd gan gwsmeriaid fwy o ddewis yn awr - gellir prynu mwy o'n cynhyrchion dros y ffôn a thrwy ein gwefan. Canolbwynt clir ein gwaith yw parhau i drawsnewid Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol. Mae cwsmeriaid yn y DU yn manteisio'n barod ar fwy o ddewis a hyblygrwydd, amrywiaeth cynnyrch sydd wedi'i wella a gwell gwasanaeth i gwsmeriaid. |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
